
LDA Design has established a new start-up studio in Cardiff, Wales marking its ninth studio across the UK.
This expansion builds on many years of involvement in Wales, including collaborating with the publicly owned renewables developer Trydan Gwyrdd Cymru to realise their energy goals, creating an award-winning vision for tidal power in Swansea Bay, and partnering with the Welsh Government to revise the Creating Sustainable Places Together framework to better support the implementation of the Wellbeing of Future Generations Act.
Other recent projects include a successful community-focused action plan for Bangor, a reimagining of Aberystwyth’s Harbour Quarter, climate-resilient infrastructure and placemaking in Mumbles and new solar and energy storage on Anglesey.
LDA Design Chair, Frazer Osment, said that the consultancy’s work in Wales had been built on creativity and strong partnerships: “We started working in Wales more than 35 years ago by advising the Welsh Development Agency and contributed to Landscapes Working for Wales and a Wales Environment Strategy.
“In fact, my first job was in Wales when I worked on the first three windfarms to be built in the UK, researching their impact, and then the regeneration of Cardiff Bay. Relationships forged then remain to this day, so I’m delighted that LDA is opening a studio here.”
LDA Design’s new studio is in Cardiff’s Castle Quarter, in the heart of the city. The studio will offer a range of services including infrastructure planning, masterplanning and design leadership, landscape architecture, town and environmental planning and strategic advice.
WELSH Translation
LDA Design yn ehangu i Gymru
Mae LDA Design wedi agor stiwdio newydd yng Nghaerdydd, dyma’r nawfed stiwdio iddynt ei hagor yn y Deyrnas Unedig.
Daw’r cam hwn yn dilyn degawdau o weithio yng Nghymru ar wahanol brosiectau, gan gynnwys gweithio mewn partneriaeth â Thrydan Gwyrdd, sef datblygwr ynni adnewyddadwy sydd dan berchnogaeth gyhoeddus, i gyflawni eu huchelgeisiau ynni; datblygu gweledigaeth o’r radd flaenaf ar gyfer pŵer llanw ym Mae Abertawe, a gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddiweddaru’r fframwaith Creu Mannau Cynaliadwy ar y Cyd er mwyn rhoi’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ar waith.
Mae prosiectau diweddar eraill yn cynnwys creu cynllun gweithredu sy’n canolbwyntio ar y gymuned ym Mangor, ail-ddychmygu Ardal Harbwr Aberystwyth, creu seilwaith sy’n gallu gwrthsefyll yr hinsawdd yn y Mwmbwls, a sefydlu storfa ynni solar newydd ar Ynys Môn.
Dywedodd Frazer Osment, Cadeirydd LDA Design, mai creadigrwydd a phartneriaethau cryf sy’n sail i waith yr ymgynghoriaeth yng Nghymru: “Dechreuon ni weithio yng Nghymru dros 35 mlynedd yn ôl drwy roi cyngor i Awdurdod Datblygu Cymru a chyfrannu at Dirweddau’n Gweithio dros Gymru a Strategaeth Amgylcheddol Cymru.
“Fel mae’n digwydd, yng Nghymru oedd fy swydd gyntaf un, yn gweithio ar y tair fferm wynt gyntaf i gael eu hadeiladu yn y Deyrnas Unedig ac yn ymchwilio i’w heffaith. Ar ôl hynny, cefais waith gyda’r prosiect adfywio ym Mae Caerdydd. Mae’r perthnasoedd a gafodd eu meithrin bryd hynny yn dal i fodoli hyd heddiw, ac felly rwy’n falch iawn fod LDA yn agor stiwdio yma.”
Ychwanegodd Ian Houlston, arweinydd stiwdio Caerdydd: “Yr hyn sy’n wych am weithio yng Nghymru yw’r ymdeimlad cryf o gymuned a geir yma, yn ogystal â’r awydd gwirioneddol i fynd i’r afael â phroblemau’r hinsawdd, colli bioamrywiaeth ac annhegwch cymdeithasol. Mae nawr yn teimlo fel amser da i sefydlu stiwdio newydd yng Nghaerdydd, ac rydym ni’n edrych ymlaen yn arw at weld beth sydd ar y gweill.”
Mae stiwdio newydd LDA Design yn ardal y castell yng nghanol Caerdydd. Bydd y stiwdio yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau, gan gynnwys cynllunio seilwaith, gwasanaeth uwch gynllunio ac arweiniad wrth ddylunio, pensaernïaeth tirwedd, cynllunio trefol ac amgylcheddol a chyngor strategol.